Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-05-11: 19 Medi 2011

 

Mae adroddiadau’r Pwyllgor i’r Cynulliad fel a ganlyn:

 

Offerynnau nad ydynt yn arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r penderfyniad negyddol

 

CLA18 - Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:12 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd:13 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym:15 Awst 2011.

 

CLA21 - Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:25 Gorffennaf 2011

Fe’u gosodwyd: 25 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym: 15 Awst 2011.

 

CLA22 - Rheoliadau Tai (Prynu Buddiannau Ecwitïol) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:26 Gorffennaf 2011

Fe’u gosodwyd: 27 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym: 19 Awst 2011.

 

CLA23 - Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffïoedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:26 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 27 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym: 19 Awst 2011.

 

CLA24 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’i gosodwyd: 3 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA25 - Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 3 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA26 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:31 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd:4 Awst 2011.

Yn dod i rym:yn unol â rheoliad 1.

 

CLA27 - Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 4 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA28 - Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 4 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA29 - Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 4 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA30 - Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 4 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA33 - Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:3 Awst 2011.

Fe’u gosodwyd: 8 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

CLA34 - Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:9 Awst 2011.

Fe’u gosodwyd: 10 Awst 2011.

Yn dod i rym:31 Awst 2011.

 

CLA35 - Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:10 Awst 2011.

Fe’i gosodwyd: 11 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

Offerynnau sy’n arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog

21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r penderfyniad negyddol

 

Cytunodd y Pwyllgor ar y pwyntiau adrodd ar yr offerynnau statudol a ganlyn o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Ceir copi ohonynt yn Atodiadau 1 i 7.

 

CLA17 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:11 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd:12 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym:3 Awst 2011.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oedd hi’n fodlon â’r oedi ynghylch dod â Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym er mwyn caniatáu trefniadau gweithredol manwl i gael eu cytuno gyda chyrff GIG mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

 

CLA19 - Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed: 15 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 19 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym: 1 Medi 2011.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo gadarnhau amserlen a lleoliad cynllun peilot Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth y mae’r rheoliadau yn ei hyrwyddo ac a oes unrhyw fwriad o hysbysu’r Cynulliad o ganlyniad y cynllun peilot.

 

CLA20 - Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed: 21 Gorffennaf 2011.

Fe’u gosodwyd: 25 Gorffennaf 2011.

Yn dod i rym: 1 Medi 2011.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog ynghylch y rheoliadau hyn i ofyn iddo gadarnhau’r amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau sy’n diwyigio er mwyn cywiro’r pwynt adrodd technegol yn Rheoliad 2(1).

 

CLA31 - Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’i gosodwyd: 4 Awst 2011.

Yn dod i rym:yn unol ag erthygl 1(2).

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes unrhyw fwriad ganddo i ddefnyddio’r pwerau o dan erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn (a CLA32) ac, os caiff y pŵer ei ddefnyddio yn y dyfodol, a fyddai’r Gweinidog yn hysbysu’r Aelodau Cynulliad drwy gyhoeddi datganiad ysgrifenedig.

 

CLA32 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:29 Gorffennaf 2011.

Fe’i gosodwyd: 5 Awst 2011.

Yn dod i rym:1 Medi 2011.

 

Yn ogystal â’r materion sy’n gyffredin rhwng CLA31 a CLA 32, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i gadarnhau a yw’r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiadau yn ystod tymor yr haf.

 

CLA36 - Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:11 Awst 2011.

Fe’i gosodwyd:22 Awst 2011. 

Yn dod i rym:1 Hydref 2011.

 

CLA37 - Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:2 Medi 2011.

Fe’u gosodwyd:7 Medi 2011. 

Yn dod i rym:1 Hydref 2011.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi peth pryder ynghylch y ffaith i’r Rheoliadau gael eu gosod yn agos iawn at y dyddiad dod i rym mewn perthynas â pholisi newydd mor arwyddocaol.

 

Busnes arall

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

CLA5 - Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 4 Gorffennaf 2011, ynghylch rhinweddau Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011.

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 4 Gorffennaf 2011, ynghylch rhinwedd Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Gweinidog i’r anghysondeb rhwng yr ymatebion Cymraeg a Saesneg.

 

CA581 - Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

 

Nododd y Pwyllgor ymateb cadarnhaol y Prif Weinidog i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 4 Gorffennaf 2011, ynghylch canllawiau a gaiff eu defnyddio i benderfynu ar y camau i graffu ar is-ddeddfwiaeth.

 

CSI1 - The Water Industry (Schemes for Adoption of Private Sewers) Regulations 2011 (Saesneg yn unig)

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 21 Gorffennaf 2011, ynghylch rhinweddau a phwyntiau adrodd technegol rheoliadau The Water Industry (Schemes for Adoption of Private Sewers) Regulations 2011, a’i bod yn ymddangos fod gwall cyfieithu yn fersiwn Cymraeg o’i lythyr.

 

Offerynnau Statudol a osodwyd cyn neu yn ystod diddymiad y Trydydd Cynulliad: Rheoliadau Ffïoedd Gofal Cymdeithasol

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Prif Weinidog i lythyr y Cadeirydd yn nodi pryderon na ddylid gosod deddfwriaeth sy’n rhoi newidiadau sylweddol ar waith ar adeg a fyddai’n rhwystro’r Cynulliad rhag ymgymryd âgwaith craffu trylwyr.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i Mr Ian Medlicott am fynegi barn, ar ran Cymdeithas Ysgrifenyddion y Cynghorau a Chyfreithwyr yn nodi pryder ynghylch nifer yr offerynnau sy’n ymwneud ag addysg a gafodd eu gosod dros yr haf i ddod i rym cyn diwedd toriad yr haf.

 

CLA10 - The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) Regulations 2011 (Saesneg yn unig)

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd ynghylch rhinweddau rheoliadau The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) Regulations 2011. 

 

Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd: Portffolio a Chyfrifoldebau’r Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

 

Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Llywydd ynghylch bwriad i adolygu sut mae system bwyllgorau newydd y Cynulliad yn gweithio. Cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried craffu ar faterion Ewropeaidd yn ystod unrhyw adolygiad.

 

Llythyr gan Gadeirydd y Comisiwn dros y Bil Hawliau, Syr Leigh Lewis, at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding

 

Ystyriodd y Pwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Comisiwn dros y Bil Hawliau, Syr Leigh Lewis. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor y byddai cyfarfod anffurfiol gyda’r Comisiwn yn fuddiol.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA17

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2(1) yn gohirio’r dyddiad y daw Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012. Mae Rhan 7 o’r prif Reoliadau yn ymdrin â’r modd y mae iawn i’w ddarparu pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ymuno mewn trefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.   

 

Materion technegol: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3(ii), ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad, mae’r Pwyllgor yn adrodd i’r Cynulliad fel a ganlyn.

 

Cefndir

 

Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG 2008oedd y Mesur

Cynulliad cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad. Maer Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau sy’n

caniatáu ar gyfer gwneud iawn mewn amgylchiadau pan fydd

atebolrwydd cymwys mewn camwedd mewn perthynas â darparu

gwasanaethau cymwys. Gall gwneud iawn gynnwys ymddiheuro,

eglurhad, camau gweithredu, camau unioni ac, os yw’n briodol,

iawndal ariannol.

 

Y gyfres gyntaf o reoliadau a gafodd eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn oedd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif reoliadau”), a osodwyd gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ar 7 Chwefror 2011.

 

Diben y prif reoliadau yw ei gwneud yn haws i gleifion fynegi pryderon os nad ydynt yn fodlon neu os oes problemau â’u gofal yn y GIG. Byddant hefyd yn sicrhau bod ymagwedd y GIG at sefyllfaoedd o’r fath yn fwy cyson ac yn arwain at ganlyniadau tecach i gleifion a staff.

 

Yn 2007, cymerodd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth, fel y’i gelwid bryd hynny, dystiolaeth ar y Mesur a chyflwynodd adroddiad arno. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylid cael lefel gryf o waith craffu ar gyfer Rheoliadau a wneir o dan y Mesur ac y dylid cael ymgynghoriad eang arnynt.

 

Cafodd y prif reoliadau eu hystyried gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad ar 17 Chwefror 2011. Cyflwynodd y pwyllgor hwnnw adroddiad ar rinweddau’r prif reoliadau a gwnaeth y sylwadau a ganlyn:

 

“Rydym wedi ystyried y Rheoliadau presennol mewn perthynas â’r materion a godwyd uchod, yn enwedig a fu digon o ymgynghori ynghylch y rheoliadau ac a yw’r Rheoliadau fel y’u cyflwynwyd yn adlewyrchu’n ddigonol y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad …

 

Er y credwn fod y pryderon cyffredinol ynghylch Mesurau ‘Fframwaith’ yn parhau i fod yn rhai dilys (ac er ein bod yn nodi’r amser sylweddol a aeth heibio ers pasio’r Mesur), rydym yn fodlon y bu’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau draft hyn yn drylwyr a chynhwysol a’i fod wedi ymateb i’r pryderon a godwyd.”

 

Roedd y prif reoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol a chawsant eu cymeradwyo gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2011. Daethant i rym ar 1 Ebrill 2011, ac eithrio darpariaethau yn Rhan 7 o’r rheoliadau y bwriadwyd iddynt ddod i rym, yn wreiddiol, ar 1 Hydref 2011.

 

Cafodd Rheoliadau’r Gwasanaeth iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y rheoliadau diwygio”) eu cyflwyno gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 12 Gorffennaf 2011.

 

Diben diwygio’r rheoliadau yw gohirio’r dyddiad y daw Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012.

 

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen hyn er mwyn caniatáu i gyrff GIG Cymru a gweddill y DU gytuno ar fanylion y trefniadau gweithrediadol. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol a ddaw gyda’r Rheoliadau:

 

“The reason for this change is to allow more time for this work to be completed since the initial assessment that a coming into force date of 1 October 2011 would be sufficient time to agree these amendments, is not now achievable.”

 

Gwneir newid arall i reoliad 52(5) o’r prif reoliadau i adlewyrchu’r dyddiad newydd y bydd Rhan 7 o’r Rheoliadau yn dod i rymac mae’n ei gwneud yn glir na fydd y trefniadau trawsffiniol y cyfeirir atynt yn Rhan 7 yn berthnasol i wasanaethau a ddarperir gan gyrff y GIG yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon ar ran cyrff y GIG yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2012.

 

Ystyriaeth gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Er ein bod yn cytuno â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad bod y prif reoliadau yn adlewyrchu’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ddigonol, mae cyflwyno rheoliadau diwygio yn awgrymu efallai nad oedd digon o ymgynghoriad â chyrff y GIG mewn rhannau eraill o’r DU mewn cysylltiad â materion trawsffiniol.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011


Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-05-11)

 

CLA19

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 drwy newid y diffiniad o “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn rheoliad 3(2) o'r rheoliadau hynny. Bydd gofynion y “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn newid o gwblhau cwrs hyfforddiant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni safonau penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

 

Craffu technegol

 

Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2.

 

Craffu ar rinweddau

 

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn canlynol:-

 

Daw’r offeryn hwn yn sgîl adroddiad Estyn ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, ac yn sgîl gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru. Daeth adroddiad Estyn i’r casgliad fod y cymhwyster yn aneffeithiol a:

 

 

Nododd y Times Educational Supplement fod undebau’r athrawon yn croesawu’r newidiadau i’r cymhwyster a’u bod ar yr un pryd yn mynegi pryder y gellid cael effaith andwyol ar nifer y prifathrawon cymwys pe na bai rhywbeth yn cael ei gyflwyno’n ddi-oed i gymryd lle’r cymhwyster. Mynegwyd pryder hefyd am gyllid ar gyfer hyfforddiant ym maes arweinyddiaeth. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd y cyllid ar gyfer y cymhwyster yn cael ei dynnu’n ôl ac y byddai’r ymgeiswyr cyfredol yn cwblhau’r rhaglen. Dechreuwyd cynllun peilot ar y cymhwyster diwygiedig yn gynharach eleni.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011

 


Atodiad 3

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA20

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn:-

 

·         yn dirymu ac yn ail-wneud, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991 (O.S. 1991/2242) a (ii) Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 (O.S.1994/2155 fel y’u diwygiwyd); ac

·         yn gorfodi darpariaethau’r UE ynghylch dosbarthu carcasau eidion a moch a hysbysu’r prisiau cysylltiedig lle bo hynny’n gymwys, sydd wedi’u cynnwys yn Rheoliad y Cyngor (EC) rhif 1234/2007 sy’n pennu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol a darpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol ac yn Rheoliad y Comisiwn (EC) rhif 1249/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar roi graddfeydd y Gymuned ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ar waith a hysbysu eu prisiau.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offerynnau a ganlyn:-

 

1.    Rheoliad 4 (c) – mae’r rheoliad yn honni ei fod yn dirymu’r Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) (Cymru) 1994. Nid yw’r rheoliadau hyn yn bod. Mae cyfeirio at y troednodyn yn awgrymu mai’r Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) 1994 fydd yn cael eu dirymu yng Nghymru. (Rheol Sefydlog 21.2 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)

 

2.    Rheoliad 2 (1) a rheoliad 26 – Mae rheoliad 26 yn darparu bod unrhyw berson sy’n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu’n mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaethau moch Ewropeaidd yn euog o dramgwydd. Er bod  “darpariaethau moch Ewropeaidd” yn cael eu diffinio yn rheoliad 2 (1) yn nhestun Saesneg y rheoliadau, nid oes diffiniad o  “darpariaethau moch Ewropeaidd” yn y testun Cymraeg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg; a Rheol Sefydlog 21.2 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

 

“PWYNT ADRODD TECHNEGOL RHIF 1: Rheoliad 4 (c) – Gwall teipograffyddol yw’r testun “(Cymru”) yn nheitl y Rheoliadau. Mae’r troednodyn i’r Rheoliadau yn esbonio mai’r offeryn y cyfeirir ato yw Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) 1994, O.S. 1994/2853. Roedd O.S. 1994/2853 yn gymwys i Brydain Fawr. Nid oedd unrhyw reoliadau cyfatebol ar wahân a oedd yn gymwys i Gymru’n unig. Mae rheoliad 4(c) yn dirymu O.S. 1994/2853 o ran Cymru yn unol â phwerau Gweinidogion Cymru i wneud hynny.

Ymhellach, ac o ran eu cymhwyso i Gymru, mae rheoliad 4(a) yn dirymu prif reoliadau sef Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991: O.S. 1991/2242. Mae rheoliad 4(a) yn dirymu O.S. 1991/2242 fel y’i diwygiwyd. Felly mae modd dadlau nad oes gwir angen dirymu O.S. 1994/2853.

Bwriedir cywiro’r gwall teipograffydol pan fydd y Rheoliadau yn cael eu cyhoeddi. Sef, dileu’r cyfeiriad “(Cymru)” yn rheoliad 4(c). Bernir bod cywiro’r gwall wrth gyhoeddi yn ddigonol am y rhesymau a roddwyd.

PWYNT ADRODD TECHNEGOL RHIF 2: Rheoliadau 2(1) a 26 – Derbynnir y dylai fod diffiniad o “darpariaeth moch Ewropeaidd” yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau. Bydd y Rheoliadau yn cael eu diwygio i gywiro’r gwall hwn cyn cynted â phosibl.

PWYNTIAU CYHOEDDI: Bydd y pwyntiau a godwyd fel rhai sy’n addas i’w cywiro wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi yn cael eu gweithredu hefyd."


Atodiad 4

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA31

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Yn ôl adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 gall Gweinidogion Cymru bennu’r trefniadau asesu y maent yn ystyried yn briodol ar gyfer y cyfnod sylfaen drwy orchymyn. Mae’r Gorchymyn hwn yn sefydlu’r trefniadau hynny. 

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn - (ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae erthygl 5 yn cynnwys y ddarpariaeth anarferol ganlynol –

“Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu’n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy’n ymddangos yn hwylus iddynt.”

 

Y pŵer galluogi yw adran 108(11) o Ddeddf Addysg 2002, sydd fel a ganlyn:-

 

“An order under subsection (2)(b)(iii) or (3)(c) may authorise the making of such provisions giving full effect to or otherwise supplementing the provisions made by the order (other than provision conferring or imposing functions as mentioned in subsection (6) or (7)) as appear to the Welsh Ministers to be expedient; and any provisions made under such an order shall, on being published as specified in the order, have effect for the purposes of this Part as if made by the order.”

 

O ganlyniad bydd Gweinidogion Cymru’n gallu gwneud darpariaethau pellach i roi’r Gorchymyn presennol ar waith yn llawn neu ychwanegu at ei ddarpariaethau, heb orfod gwneud gorchymyn diwygio a fyddai’n  destun craffu i’r Cynulliad. Serch hyn, defnyddiwyd y pŵer hwn gan y Cynulliad ar sawl achlysur (yn wreiddiol rhoddwyd y pŵer ir Cynulliad) a gan Weinidogion Cymru (trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Nid yw hyn yn ddefnydd anarferol nac annisgwyl o’r pŵer yn adran 108(11), sydd iw nodi o dan Reol Sefydlog 21.2(ii), ond maen bŵer anarferol, ac felly yn un pwysig. 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011


Atodiad 5

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA32

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002, caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd, yn eu barn hwy, yn briodol i’r cyfnod sylfaen. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu y caiff disgyblion eu hasesu yn y flwyddyn olaf o’r cyfnod sylfaen gan athro neu athrawes, ac mae’n nodi diben yr asesiadau hynny.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn - (ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae erthygl 5 yn cynnwys y ddarpariaeth anarferol ganlynol –

“Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu’n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy’n ymddangos yn hwylus iddynt.”

 

Y pŵer galluogi yw adran 108(11) o Ddeddf Addysg 2002, sydd fel a ganlyn:-

 

“An order under subsection (2)(b)(iii) or (3)(c) may authorise the making of such provisions giving full effect to or otherwise supplementing the provisions made by the order (other than provision conferring or imposing functions as mentioned in subsection (6) or (7)) as appear to the Welsh Ministers to be expedient; and any provisions made under such an order shall, on being published as specified in the order, have effect for the purposes of this Part as if made by the order.”

 

O ganlyniad bydd Gweinidogion Cymru’n gallu gwneud darpariaethau pellach i roi’r Gorchymyn presennol ar waith yn llawn neu ychwanegu at ei ddarpariaethau, heb orfod gwneud gorchymyn diwygio a fyddai’n  destun craffu i’r Cynulliad. Serch hyn, defnyddiwyd y pŵer hwn gan y Cynulliad ar sawl achlysur (yn wreiddiol rhoddwyd y pŵer ir Cynulliad) a gan Weinidogion Cymru (trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Nid yw hyn yn ddefnydd anarferol nac annisgwyl o’r pŵer yn adran 108(11), sydd iw nodi o dan Reol Sefydlog 21.2(ii), ond maen bŵer anarferol, ac felly yn un pwysig. 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011


Atodiad 6

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA36

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Bydd y Gorchymyn drafft hwn yn weithredol yng Nghymru a Lloegr.

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â gwarchod planhigion ac anifeiliaid penodol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn yn ychwanegu pedwar anifail newydd i Atodlen 5 i’r Ddeddf ac yn dileu enw dau anifail o’r rhestr o anifeiliaid i’w gwarchod. Mae’r Gorchymyn hefyd yn estyn lefel y warchodaeth a roddir i ddau anifail ac yn lleihau lefel y warchodaeth a roddir i ddau anifail. Mae’r Gorchymyn hefyd yn ychwanegu dau blanhigyn arall i’r rhestr yn Atodlen 8 ac yn dileu enw pedwar planhigyn o’r rhestr. Mae Atodlen 5 yn rhestru enwau’r anifeiliaid a warchodir o dan adran 9 o’r Ddeddf. Mae Atodlen 8 yn rhestru enwau’r planhigion a warchodir o dan adran 13 o’r Ddeddf.

 

Materion technegol: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.

 

[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Gellid bod wedi gwneud y Gorchymyn hwn yng Nghymru gan Weinidogion Cymru ac felly ei wneud yn ddwyieithog.

 

[21.3((ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad].

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011

 

Ymateb Technegol

 

Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn diwygio Atodlenni 5 ac 8 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Mae’r Gorchymyn yn ychwanegu pedwar anifail newydd at Atodlen 5 ac yn tynnu dau enw oddi ar y rhestr warchodaeth. Yn ogystal, mae’r Gorchymyn estyn gwarchodaeth dau anifail ac yn gostwng y lefel o warchodaeth a roddir i ddau anifail. Hefyd, mae’r Gorchymyn yn ychwanegu cofnodion am ddau blanhigyn newydd at Atodlen 8 ac yn tynnu 4 cofnod am blanhigion sydd yno’n barod. Mae Atodlen 5 yn rhestru’r anifeiliaid a warchodir o dan adran 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac mae Atodlen 8 yn rhestru planhigion a warchodir o dan adran 13 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

 

Ymateb ar y Rhinweddau

 

Gwnaed y Gorchymyn cyfansawdd ar ôl i gyrff cadwraeth Prydain Fawr wneud sylwadau, drwy ‘r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud y offeryn hwn yn ddwyieithog.

 

 

 

 


Atodiad 7

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-05-11)

 

CLA37

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Fe’u gwneir o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.

 

Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwerthwyr yn codi isafswm pris am fagiau siopa untro. Maent yn gorfodi gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar werthwyr, yn penodi awdurdodau lleol i weinyddu’r cynllun codi tâl ac yn rhoi pwerau sancsiynau sifil i’r awdurdodau lleol i orfodi’r Rheoliadau. 

 

Ceir crynodeb o’r prif welliannau a wneir i Reoliadau 2010 yn y Rheoliadau hyn yn y Nodyn Esboniadol sy’n cyflwyno’r Rheoliadau.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Cefndir

 

Trafodwyd Rheoliadau 2010 gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad ar 17 Tachwedd 2010. Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad ar rinweddau’r Rheoliadau a cheir copi o’r adroddiad hwnnw fel Atodiad. Gwnaed y pwyntiau a ganlyn, ymhlith rhai eraill, yn yr adroddiad, nad oedd yn beirniadu’r rheoliadau’n ormodol:

 

   mai yn y rheoliadau y cafwyd y defnydd cyntaf yn y DU o’r pwerau o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i’w gwneud yn ofynnol i godi tâl am fagiau siopa ac mai dyma’r tro cyntaf y rhoddwyd pwerau sancsiynau sifil i awdurdodau lleol yng Nghymru;

   bod y pwerau a ddefnyddiwyd i wneud y rheoliadau wedi’u rhoi yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru ac nad oedd y Cynulliad wedi craffu arnynt cyn hynny; a

   bod amrywiaeth o bryderon manwl ynghylch sut byddai’r rheoliadau’n gweithio’n ymarferol a sut byddent yn effeithio, yn benodol, ar fanwerthwyr bach.

 

Gweithdrefn

 

Gwnaed y Rheoliadau gwreiddiol o dan y weithdrefn gadarnhaol a chawsant eu trafod a’u cymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd. Gwnaed hyn oherwydd bod y ddeddfwriaeth alluogi yn ei gwneud yn ofynnol bod y weithdrefn gadarnhaol yn cael ei defnyddio lle mae’r pwerau:

 

   yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf;

   yn gosod sancsiynau sifil newydd;

   yn cynyddu neu’n newid y sail ar gyfer pennu cosbau ariannol; neu

   yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol.

 

Nid yw’r un o’r ffactorau hyn yn berthnasol i’r rheoliadau diwygio hyn ac, felly, cânt eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol.

 

Materion penodol

 

Yr effaith ar fusnesau bach a chanolig

 

Mae’r rheoliadau hyn yn mynd i’r afael ag un o’r pwyntiau yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a gyhoeddwyd yn 2010. Roedd busnesau bach a chanolig yn pryderu ynghylch effaith y gofyniad i gadw cofnodion ac i’w darparu ar gais i unrhyw aelod o’r cyhoedd. Mae’r rheoliadau diwygio hyn yn diddymu’r gofyniad adrodd ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn.

 

Costau

 

Ymddengys bod y rheoliadau hyn hefyd yn mynd i’r afael â mater arall a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol: a ellir didynnu’r costau a dalwyd yn y cyfnod cyn i’r rheoliadau ddod i rym o’r incwm a gafwyd o godi tâl. Mae’r rheoliadau diwygio’n egluro bod y costau ‘sefydlu’ yn cyfrif fel ‘costau rhesymol’ ar gyfer y flwyddyn gyntaf y mae’n rhaid cyflwyno adroddiad ynddi ac y gellir eu didynnu.

 

Amseru

 

Daw’r rheoliadau hyn i rym mewn 12 niwrnod, ar 1 Hydref 2011, sef y dyddiad pryd y dechreuir codi tâl am fagiau siopa. Fodd bynnag, deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb yn y rheoliadau diwygio ynghylch y posibilrwydd y bydd newidiadau ac, felly, y dylent eu disgwyl.

 

Yn sgil y pwynt blaenorol, mae’r Pwyllgor wedi cytuno bod y rheoliadau diwygio’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ddwyn y Gorchymyn drafft a’r Rheoliadau i sylw’r Cynulliad drwy gyhoeddi adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3(ii)

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Medi 2011